Rhybudd Risg
1. Gall prisiau eiddo ostwng sy'n golygu y gall gwerth eich buddsoddiad ostwng.
Mae pris eich buddsoddiad yn seiliedig ar y pris yr eiddo ar adeg honno.
Mae'n arfer ariannol da i arallgyfeirio eich portffolio trwy fuddsoddi dim ond cyfran o'ch incwm y gellid ei golli mewn amrywiaeth o wahanol fuddsoddiadau ar draws gwahanol lwyfannau er mwyn lliniaru risg.
Beth yr ydym ni'n gwneud er mwyn lleihau y risg
Er na allwn reoli symudiad y farchnad, mae gennym broses ddethol llym ar gyfer ein heiddo er mwyn lleihau'r perygl y bydd prisiau eiddo yn gostwng a chynyddu'r siawns y bydd y pris yn codi. Gwnawn hyn trwy fuddsoddi mewn tai sydd â galw boed i brynu neu rhentu cryf iawn mewn ardaloedd dethol.
2. Mae ein rhagolygon a'n perfformiad yn y gorffennol yn helpu gyda'r gwaith dyfalu ond dim ond dynol ydym ni ac ni allant ragweld y dyfodol.
Nid yw perfformiad blaenorol eiddo yn arwydd o ganlyniadau'r dyfodol, ac nid yw rhagolygon canlyniadau yn y dyfodol yn cael eu gwarantu.
Beth yr ydym ni'n gwneud er mwyn lleihau y risg
Rydym yn seilio ein rhagolygon ar ddata hanesyddol hirdymor i sicrhau bod unrhyw ragfynegiadau yn wydn i newidiadau tymor byr mewn prisiau. Rydym hefyd yn sicrhau bod yr holl gostau, yswiriant a threthi yn cael eu cyfrif, a bod sgop i ddygymod a newidiadau bychain pe bai rhywbeth anffodus yn digwydd.
3. Dim gwarchodaeth gan y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (Financial Services Compensation Scheme)
Nid yw eich buddsoddiad yn cael ei gwarchod gan yr Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (Financial Services Compensation Scheme)
4. Dim Cyngor Ariannol
Nid yw CRONVA yn darparu cyngor neu argymhellion ariannol. Os nad ydych yn siwr a yw buddsoddi yn CRONVA yn briodol i chi, dylech geisio cyngor ymgynghorydd ariannol annibynnol sydd wedi'i awdurdodi o dan Ddeddf Gwasanaethau Ariannol a Marchnadoedd 2000 (Financial Services and Markets Act 2000).
Nid yw'r rhestr hon o ffactorau risg o reidrwydd yn amlinellu'r holl risgiau posibl dan sylw. Os ydych chi'n ansicr ynghylch unrhyw agwedd o'r wybodaeth a ddarperir gan y cwmni, dylech ofyn am gyngor gan ymgynghorydd ariannol annibynnol.