top of page

Y Syniad

Syniad y fenter yw’r datblygu "ariannu torfol" neu “crowd funding” gan gynnig cyfle i fuddsoddi mewn eiddo drwy gyfrannu at gronfa ar y cyd gydag aelodau eraill o’r gymuned. Gallen ni gwneud elw drwy dderbyn llog sydd llawer yn uwch na banc. Mae "ariannu torfol" yn cynnig cyfle cyffrous i’r rhai sydd am ddringo'r ‘ysgol eiddo’ heb y drafferth o orfod delio gyda’r broses heriol o brynu. Mae hwn hefyd yn gyfle i wneud yn fawr o’ch arian a chyfrannu at asedau y gallwch eu gweld a’u mesur.

Sut Mae'n Gweithio

I ddechrau byddwn yn ceisio cynnig y gwasanaeth drwy gwmni sydd eisioes yn bodoli ac wedi ennill ei blwy ac yn uchel ei barch yn y maes "ariannu torfol". Y bwriad bydd buddsoddi ar y cyd dros bortffolio amrywiol o eiddo.  Yn naturiol y gobaith yw sefydlu cronfa sydd yn annibynnol gyda phwyslais ar Gymru - ond un cam ar y tro! 

Mae cwmnïau sefydledig yn y maes fel arfer yn gofyn am gyfraniad o £1,000 fel isafswm buddsoddiad. Gall hyn fod yn dipyn o gamp anodd i un unigolyn ond petawn ni oll fel cymuned yn buddsoddi yr hyn y gallem ni (e.e o £25 i fyny), mae’n darged y gellid ei gyrraedd yn llawer rhwyddach. Y gobaith yw sicrhau pe gallem gael log o 5% ar fuddsoddiad. Mae hyn yn ffafriol o’i gymharu â banc arferol. Ein nod yw cynnig llog uchel i’n buddsoddwyr am eu cyllid gydag ychydig iawn o ymdrech neu wariant iddynt. Fel tîm sy’n datblygu’n barhaus, rydym bob amser yn edrych ar gyfleoedd posibl, a chredwn, trwy greu cymuned o fuddsoddwyr, y gallwn dyfu ac elwa mewn marchnad fodern gynyddol gymhleth ac mewn oes ble mae amser yn teimlo mor brin.

Sut i Gymrud Rhan

Os yw cyfle buddsoddi fel hwn yn ddeniadol i chi a’ch bod yn dymuno bod yn rhan o’r drafodaeth wrth inni gamu i’r maes cyffrous hwn, cliciwch y botwm isod. Mae hyn yn rhoi caniatâd i ni eich diweddaru wrth i ni fentro gyda'n gilydd.

bottom of page