top of page

CRONVA

Nod CRONVA yw cael hyd i ffordd o fuddsoddi mewn eiddo ar y cyd a gwneud hynny mewn ffordd sydd yn gynaliadwy a fforddiadwy. Yn rhy aml mae diffyg amser a’r angen am arian mawr wrth brynu eiddo yn dod yn y ffordd ac yn aml yn arwain at golli cyfleoedd yn y maes.

If you would like to view the page in English, please click here

Ariannu Torfol 

Cysylltwch gyda CRONVA gyda unrhyw gwestiynnau neu awgrymiadau

Diolch am eich diddordeb!

  • Facebook - Black Circle
  • Twitter - Black Circle

Lansiad CRONVA!

Croeso i ddigwyddiad cyntaf CRONVA, ein lansiad! Mae'n bleser gennym eich gwahodd i glywed ein cyflwyniad cyhoeddus cyntaf i drafod y fenter gyffrous sef CRONVA. Paratowch gymaint o gwestiynau neu sylwadau sydd gennych er mwyn i ni allu ateb unrhyw ymholiadau ynghylch CRONVA.

Mae pob tocyn ar gyfer y digwyddiad am ddim, ond yn gyfyngedig. Mi fydd dyddiad am y Lansiad yn cael ei cyhoeddi'n fuan!

 

Os oes gennych ddiddordeb yn y fenter ond methu dod i'r digwyddiad, chofrestrwch ar gyfer y newyddion diweddaraf!

Property Investment Window.jpg

Buddsoddiad Awtomatig

Buddsoddi mewn eiddo heb y drafferth o reoli'ch portffolio eich hun. Bydd eich buddsoddiad yn cael ei ledaenu ar draws portffolio amrywiol o fuddsoddiadau i leihau'r risg o golli cyfalaf, gyda'r golwg o gael elw o 5%.

Mwy o Fanylion 

Isafswm Buddsoddi          £25

Diogelwch                         Taliad Cyfreithiol Cyntaf ar Eiddo

Cyfnod Buddsoddi           12 mis

Cyfradd Llog                      5%

Gweddill                            £750

Buddsoddi

Mae cwmnïau sefydledig yn y maes fel arfer yn gofyn am gyfraniad o £1,000 fel isafswm buddsoddiad. Gall hyn fod yn dipyn o gamp anodd i un unigolyn ond petawn ni oll fel cymuned yn buddsoddi'r hyn y gallem ni (e.e. o £25 i fyny), mae’n darged y gellid ei gyrraedd yn llawer rhwyddach.

Elwa

Gobaith CRONVA yw sicrhau pe gallem gael log o 5% ar fuddsoddiad. Mae hyn yn ffafriol o’i gymharu â banc arferol. Ein nod yw cynnig ad-daliad i’n buddsoddwyr am eu cyllid o fewn cyfnod penodedig (blwyddyn neu lai) a hynny, gydag ychydig iawn o ymdrech neu wariant iddynt.

Cefnogwch eich Cymuned

Fel rhan o gymuned o fuddsoddwyr, byddwn yn ceisio cefnogi prynwyr a datblygwyr eiddo lleol fel y gallant ddarparu ar gyfer dibenion pobl leol.

bottom of page